Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 24 Ionawr 2022
Amser:
13. -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12577
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Sian Gill, Pennaeth Adrodd Ariannol, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23: Sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a swyddogion o Lywodraeth Cymru.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - 26 Tachwedd 2021
Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.
3.2 Gohebiaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch craffu ar y Gyllideb 2022-23 - 14 Ionawr 2022
Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.
3.3 Amcangyfrif Cyllideb Comisiynydd Plant Cymru 2022-23 - 14 Ionawr 2022
Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.
3.4 Gohebiaeth at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch canolfannau preswyl i fenywod - 21 Rhagfyr
Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.
3.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch creu canolfan breswyl i fenywod - 18 Ionawr
Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.
3.6 Gohebiaeth at y Prif Weinidog ynghylch cyfiawnder data - 21 Rhagfyr
Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.
3.7 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog ynghylch cyfiawnder data – 18 Ionawr
Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.
3.8 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol - 21 Rhagfyr 2021
Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
Derbyniwyd y cynnig.
5 Y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2, a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft y tu allan i’r Pwyllgor.
6 Monitro’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi’r adroddiad monitro hwn, ac unrhyw adroddiadau tebyg yn y dyfodol, i ddangos sut mae’r Pwyllgor yn monitro’r mater.
Cytunodd y Pwyllgor i roi copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd i’r Awdurdod Monitro Annibynnol.
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Aelodau Seneddol i ofyn pa waith achos sydd ganddynt sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Preswylio.
7 Adolygiad o amserlenni’r pwyllgorau: trafod yr ymateb drafft i’r Llywydd
Trafododd yr Aelodau yr ymateb drafft i’r Llywydd a chytunwyd i’w gwblhau y tu allan i’r Pwyllgor.